Gardd Hydrefol

(click here for English version of the autumnal garden) Mae lliwiau egsotig yr haf wedi pylu o’r ardd ond rwan mae hi’n amser i’r dail lliwgar yn ymddangos. Dw i wrth fy modd efo’r Hydref pan dail goch a melyn disgyn i lawer a chuddio’r ddaear mewn blanced deilen. Mae dail sych yn greinsio o dan fy nhraed ac maen nhw’n siffrwd wrth i’r gwynt pan dw i’n cerdded trwy’r ardd.
Wrth gwrs, ym mis hydref dydy’r dail ddim yn aros yn sych yn hir, efo’r glaw trwm, niwl a boreau gwlithog. O gwmpas y pentwr compost ac ardal wyllt yr ardd, mae ffyngau ddiddorol yn gwthio eu pennau fry y dail llaith.. Maen nhw’n dod mewn cymaint o wahanol siapiau, lliwiau a meintiau, ac mae’n rhyfeddol faint y ffyngau chi’n gweld ar ôl i chi ddechrau chwilio amdanyn nhw yn y pridd llaith a phren pwdr.
Dw i’n gweld gwiwer a phioden yn cwrso ei gilydd o gwmpas yr ardd yn ymladd dros hanner afal bod nhw wedi ffeindio. Mae sgrech y coed swil yn aros o’r golwg ac yn cuddio mesen o dan sbwriel dail.
Yn sydyn dw i’n clywed ydfrain yn gweryl yn uchel yn y coed a dw i’n gweld bwncath ddechrau hedfran yn araf uwchben yr ardd. Mae grŵp mawr o ddrudwy clebran yn gwylio’r bwncath o’r wifren ffôn ond lwcus iddyn nhw dydy’r bwncath ddim yn hela heddiw.
Dw i’n gwylio’r adar hedfan o’r clawdd i’r bwrdd aderyn am bwyd blasus ( siwed a chnau) Mae titw tomos las yn hofran wrth do’r sied yn ffeindio a bwyta’r pryf copyn sydd yno. Dyma un rhesym pam dwi’n gadael adal o gwair a phlanhigion tal efo phennau hadau dros y gaeaf; felly y pryf copyn yn medru eu gweoedd rhwng y phlanhigion, cael shelter i’r pryfed, a bwyd i’r adar. Dw i wrth fy modd yn cerdded o gwmpas yr ardd ar ôl bore hydrefol gwlithog a gweld ar yr holl gweoedd pry cop yn disglair efo glain o ddŵr.
Yn anffodus, efo llawer o ddyddiau llaith, mae gwlithod yn dod. Diolch byth, mae’na rai helpwyr bach sy’n ymweld â gardd sydd wrth eu bodd yn bwyta gwlithod.
Pan y nosweithiau yn sychydd mae mochyn daear yn ymweld â gardd i chwilio am gnau, aeron a gwlithod. Pan y nosweithiau yn gwlyb mae draenogod yn rhuthro o gwmpas yn swnllyd yn cnoi gwlithod yn trio bod yn barod i gaeafgysgu. Dw i wrth fy modd i fod allan yn y tywydd Hydrefol hyd yn oed os mae hi’n bwrw glaw neu’n wyntog. Mae’n helpu fi deimlo’n rhan o natur; felly ewch allan a mynhawch y tywydd Hydrefol a gweld beth medrwch chi ei weld yn eich gardd.

Natur Conwy

Mae gan gwarchodfa natur RSPB wrth yr Aber Conwy golygfeydd ffantastig o Eryri a Chastell Conwy, a chafodd ei adeildwaith gan yr RSPB ar ôl agor y twnnel Conwy.

Mae’n anhygoel y gwarchodfa natur yn agos iawn i’r A55 a thybed faint o weithiau dw i wedi gyrru gerllaw yma heb wybod am y safle.

Mae ‘na lawer o lwybrau trwy’r warchodfa sy’n mynd i ble dw i’n edrych ar y llynnoedd, cyrs ac aber.

O’r cuddfannau gweles i grëyr bach, hwyaid yr eithin a gwyddau. Mi es i am dro ar hyd y llwybrau a gweles i  fwyalchen, ji-binc a thelor y gwerni; hefyd gweision neidr, tegeirianau gwenynen, tegeirianau porffor a llawer o wenyn suo o gwmpas y blodyn yn yr heulwen.

Mae’r pyllau ger yr aber yn darparu bwydo a chlwydo lleoedd wych i hwyaid, adar rhydio a bywyd gwyllt eraill. Hefyd gweles i ferlod gwyllt bwyta’r cyffion gwyrdd ffres yn dod i fyny o pwll bas

.

Mae’r warchodfa natur yn jyst anhygoel. Mae’r golygfeydd yn ysblennydd a lle wych i fynd am dro am ychydig oriau, hefyd mae’r staff yn ddefnyddiol iawn ac yn gyfeillgar.

Dwi’n edrych ymalen at fynd eto yn fuan.