Mae fy amser yn Nant gwrtheyrn

Dwi’n dysgu Cymraeg ers mis Hydref 2012, a dw i wrth fy modd yn dysgu’r iaith. Dwi’n ymarfer darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg ond siarad yr iaith yn fy nosbarth unig. Rôn i’n dymuno bod medrwn i’n trochi fi fy hun yn yr iaith i siarad Cymraeg efo fwy hyder; pan un diwrnod mi enilles i gystadleuaeth efo @LearnCymraeg i ddysgu yn Nant Gwrtheyrn.
Mi weles i gwrs natur yn Nant Gwrtheyrn, a rôn i’n gyffrous. Mi fedrwn i’n cyfuno fy dau hoff bynciau… natur a Cymraeg. Tri diwrnod o ddysgu am natur a siarad Cymraeg… Beth mae cyfuniad- Perffaith!
Daeth mis Mai yn fuan a rôn i’n mynd i Nant Gwrtheyrn o’r diwedd. Dydy hi ddim yn cymryd gormod o amser i yrru a roedd yn hawdd i ffeindio. Mi wnes i stopio am funud yn y maes parcio uchaf yn edrych dros i Yr Eifl cyn i mi yrru y ffordd serth i lawr y bryn coediog i Nant Gwrtheyrn a’r môr. Rôn i’n nerfus am yrru i lawr y ffordd ond doedd‘n ddim yn mor drwg a’r golygfeydd yn wir anhygoel!

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Pan gyrhaeddes i rôn i’n cyffrous iawn. Roedd y staff yn gyfeillgar, a fy ystafell yn un o’r hen fwthyn chwarel yn hyfryd iawn. Rôn i’n edrych ymlaen at aros yma a roedd‘n mynd yn ôl yn amser heb signal teledu neu ffôn.

20160502_164130
Yn y prynhawn mi es i am dro o gwmpas y pentre a cherddes i i’r traeth. Mi weles i siglen fraith, clochdar y cerrig a bwncath, a rhannau o’r hen chwarel ithfaen hefyd. Mi eisteddes i ar y traeth yn edrych yr tonnau ac yr olygfa hardd.

20160502_181957
Yn yr nos mi gerddes i yn ôl i’r traeth a mi wnes i fy fideo bach cyntaf o fi siarad Cymraeg; wedyn mi gerddes i yn ôl i’r pentre a gwylio’r machlud a cyn i mi fynd i’r gwely, yn gyffrous am ddechrau y crws natur yn y bore.

20160502_200140

Diwrnod Un nesa yma….

Diwrnod Un -Nant Gwrtheyrn

cyrraedd yn y Nant

Mi godes i yn gynnar a cherddes i i’r caffi yn teimlo’n gysglyd a thipyn bach bryderus. Roedd ‘na lawer o fwyd hyfryd ar gyfer brecwast o ffrwythau, iogwrt, sudd a grawnfwyd. Roedd ‘na lawer o fwyd i ddewis.
Roedd ‘na ddysgwyr o lawer o wahanol ardaloedd.  De a Gogledd Cymru, Rhydychen, Caerlŷr ac un dysgwr o Awstralia hefyd.  Roedd pawb yn gyfeillgar a dechreuon ni siarad Cymraeg yn syth
Ar ôl i ni fwyta brecwast gaethon ni fewn 2 grŵp.  Ron i mewn grwp o 5 dysgwyr a thiwtor yn hyfryd.  Yn y dosbarth ar ol i ni gyflwyno ein hunain, dysgon ni’r enwau adar yn Gymraeg.
Roedd y tywydd yn tipyn gwyntog, ond doedd hi ddim yn oer, felly ar ôl ein dosbarth mi aethon ni am dro efo Twm Elias (naturiaethwr) i lawr i’r traeth.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Mi welon ni ysgall, garlleg gwyllt (craf y geifr) , briallu ac eithin.  Mi ddysgon ni fod gan lygad ebrill betalau sgleiniog i adlewyrchu’r olau’r haul.  Mae rhawn y caseg yn ddefnyddiol i lanhau potiau fel byd natur Brillo pad.  Hefyd mae llên gwerin yn dweud; pan eithin yn ei flodau, cusan yn eu tymor.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Mi aethon ni am dro hyd y traeth yn edrych ar gerrig o basalt, gwenithfaen a iasbis.  Mi ddaeth cerrig yma yn Oes yr Iâ.  Mi welon ni bethau o’r hen chwarel a dysgon ni am hanes y pentre.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Roedden ni’n barod i fwyta cinio ar ôl gerdded ar y traeth a roedd y cinio yn flasus iawn.  Mi ges i gawl llysiau, brechdanau, a bara brith.
Yn y prynhawn mi ddysgon ni’r enwau o mamaliaid yn Gymraeg ac am beth gwelon ni ar y traeth yn y bore.  Wedyn, eisteddon ni ar y soffa efo Twm yn gwrando ar straeon mythau a chwedlau o’r Wyddfa, Rhita Gawr a Tre’r Ceiri.
Ar ôl i ni gael cinio hyfryd gwrandawon ni ar fwy straeon o Twm am adar fel tylluanod. Roedd y dylluan yn symbol o lwc dda yn Groeg ac yn cysylltiedig efo’r Duwies Athene.
Roedd hi’n noson dawel hyfryd felly cyn i mi fynd i’r gwely mi es i am dro i lawr i’r traeth chymes i luniau o eitemau golchi i fyny ar y traeth, ac wedyn eisteddes i ar y traeth yn gwylio machlud hyfryd arall.

beach finds

Diwrnod Dau -Nant Gwrtheyrn

Roedd’n diwrnod yn hyfryd a chodes i gynnar achos ron i’n gyffrous am y diwrnod i ddod.

Mi ddysgon ni am fforio a choginio a daeth y rhaglen Heno i’n ffilmio ni trwy’r dydd.

heno
Yn gyntaf, dysgon ni’r enwau o blanhigion gwyllt yn Gymreag yn y dosbarth, wedyn mi aethon ni i’r pentref lleol Llithfaen efo Catrin i chwilio am fwyd gwyllt ar hyd y ffordd.
Mi ddewison ni blanhigion gwyllt fel garlleg y berth, fioled a briallu yn tyfu ar hyd y ffordd a deilen gron a gwallt y forwyn yn tyfu yn y craciau yn y wal.

20160504_113444
Roedd y fforio yn hwyl, ond cymryd beth chi angen yn unig a rhaid i chi fod yn ofalus achos rhai planhigion yn wenwynig!
Mi aethon ni yn ôl i’r Nant yn fforio rhai suran y coed, dant y llew ac eithin.

20160505_130751.jpg

Mae dant y llew dail yn medru defnyddio mewn salad a mae’r blodau yn cael ei wneud mewn marmalêd neu win.

20160504_121311
Mae gan eithin flodau melyn sy’n fwytadwy ac arogl fel cnau coco. Mae’r blodau briallu yn fwytadwy hefyd a dach chi’n medru defnyddio mewn salad.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Ar ôl i ni fwyta cinio, dysgon ni sut i wneud bisgedi fioled, bara garlleg a cawl danadl poethion.

IMG_20160509_102003
Yn y noson, colles i cinio ac es i am dro efo ddysgwr arall i fryngaer Tre’r Ceiri. Hanner ffordd i fyny siaradon ni Gymraeg â dyn lleol pa roedd wych.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Cerdded i fyny Tre’r Cieri roedd golygfa yn ffantastig a mae’r bryngaer yn drawiadol iawn.
Tre’r Ceiri yn fryngaer o’r Oes Haearn. (Tref y cewri-Town of the giants) Mae’r bryngaer yn 1,480 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae’r bryngaer gan waliau cerrig uchel a mae ‘na dua 150 adfeilion ty cerrig.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
I swper, bwyton ni sglodion yn Nefyn cyn i ni ddod yn ôl at y Nant i wylio’r machlud terfynol yma, trist achos bydd yfory yn fy niwrnod olaf yma.

20160503_203409

Diwrnod 3- fy niwrnod olaf yn Nant Gwrtheyrn

Mi godes i i frecwast am 9 a mi wnes i bacio fy magiau, drist achos roedd fy niwrnod olaf yma.
Am 9.30 mwynheues i fy nghwrs olaf yn y dosbarth.  Mi ddysgon ni’r enwau Cymraeg o goed brodorol ac adolygu.
Am 11.30 aethon ni am dro yn y goedwig efo Twm Elias.  Dwedodd o am y llên gwerin a hanes rhai planhigion.

20160503_203148

Bysedd y Cŵn yn mynd drwy nifer o enwau fel, Ffïon, Bys Coch, Gwniadur Mair, Menyg Ellyllod, Y Gleci Goch, Capiau Tylwyth Teg. Tylwyth Teg wrth eu bodd efo’r blodau, fel y gloÿnnod byw a gwenyn.  Mae’n credu bod os chi’n dymuno’r Tylwyth Teg i wneud cartref yn eich gardd, rhaid i chi dyfu’r planhigion yn eich gardd….Ond, byddwch yn ofalus achos y planhigyn yn gwenwynig!

Fel rad golau artiffisial, brwyn yn cael eu plicio, wedyn sychu ac yna socian mewn braster i wneud gloau brwyn.

Mae’r criafolen yn amddiffyn yn erbyn dewiniaeth a lledrith. Cyn fabanod eu bedyddio darn o griafolen yn cael ei roi yn y crud a haearn o’r tân wrth droed y crud i ddychryn y tylwyth teg.

Llên Gwerin yn dweud- Pan fydd y drain duon yn wyn, hau haidd dydd a nos, a gaeaf caled hir yn Drain Duon Gaeaf.

Yn y coed a gwelson ni frwyn, suran y coed, cen, chwilen y dom, pioden a brân coesgoch hefyd.

20160505_130751.jpg20160505_115816.jpg
Erbyn i ni orffen y daith roedden ni ‘n barod i fwyta cinio, a oedd yn flasus iawn fel arfer.  Wrth i ni fwyta cinio gwrandawon ni ar Twm ddweud mwy o chwedlau a llên gwerin.  Mae’r straeon yn fanatstic a fedrwn i wrando arno fo am oriau.

Mae’r gweithgaredd olaf roedd helfa drysor o gwmpas y pentref i ymarfer beth wedi ni ddysgu yn ystod ein arhosiad.  Roedd’na lawer o hugs a ffarwel.

Mi ddes i ffwrdd o’r lle isio i fynd yn ôl ac yn astudio cwrs arall yno.  Mae’n lle rhyfeddol hardd efo awyrgylch hamddenol hyfryd. Os dach chi’n dysgu Cymraeg wedyn dylai di ddod i Nant Gwrtheyrn achos mae’n lle gwych i ddysgu Cymraeg
Mwynheues i fynd ar y cwrs yno a gobeithio, bydda i’n mynd yn ôl yno eto un diwrnod.

20160502_182337